Description
Mae Y Cam Nesaf wedi’i brynu a'i roi i blant a phobl ifanc ers 25 mlynedd! Dros y cyfnod hwn mae'r llyfr, ynghyd â rhai adnoddau ychwanegol gwych, wedi’i ddefnyddio i helpu plant i ddelio â’r cyfnod o symud ysgolion. Wedi'i lenwi â chyngor ac arweiniad gan fyfyrwyr a staff, mae dros 2.5 miliwn o blant Blwyddyn 6 ledled y DU wedi derbyn yr adnodd ymarferol a defnyddiol hwn.
O fewn y llyfr 80 tudalen hwn ceir cynnwys gwych sy'n cwmpasu'r holl faterion sy'n medru peri pryder i berson ifanc, o sut i gyrraedd yr ysgol, gwneud gwaith cartref i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas. Mae Y Cam Nesaf hefyd yn ymdrin â rhai o'r agweddau anoddaf ar fywyd yn yr ysgol uwchradd gan gynnwys gwneud ffrindiau a bwlio.